Job 30

1Ond bellach mae hogiau ifanc
yn gwenu'n wawdlyd arna i;
rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw
i'm cŵn defaid
30:1 cŵn defaid Roedd cŵn yn cael eu dirmygu yn y cyfnod, am eu bod yn greaduriaid rheibus. (gw. Eseia 56:10-12)
nag i'w tadau nhw!
2Dynion rhy wan i fod o iws i mi –
dynion wedi colli pob cryfder.
3Dynion sy'n denau o angen a newyn,
yn crwydro'r tir sych,
a'r diffeithwch anial yn y nos.
4Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,
a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes.
5Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,
a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
6Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,
mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
7Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,
ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
8Pobl ddwl a da i ddim,
wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
9Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;
ac yn ddim byd ond testun sbort.
10Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;
ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
11Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,
maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop.
12Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,
i'm bwrw oddi ar fy nhraed;
maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,
ac yn llwyddo i'm llorio,
heb angen unrhyw help.
14Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan;
yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
15Mae dychryn yn dod drosta i,
fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd;
mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
16Bellach mae fy enaid yn drist,
a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,
a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,
a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;
dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;
dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;
a'm taro mor galed ac y medri.
22Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;
a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw,
a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw.
24Wnes i erioed godi fy llaw i daro
rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
25Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,
ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
26Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;
wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
27Dw i'n corddi y tu mewn i mi,
wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;
dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
29Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,
neu gymar i'r estrys.
30Mae fy nghroen wedi tywyllu,
a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.
31Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist,
a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.
Copyright information for CYM